Cofnodion y Grŵp Trawsbleidiol ar Ymchwil Feddygol
17 Mai 2023, rhwng 11.00 a 12.00.
Yn bresennol
Russell George AS
Sioned Williams AS
Mike Hedges AS
John Griffiths AS
Rebecca Hill
Ben Bleasdale
Lynne Grundy
Christopher George
Andrew Bettridge
Joanne Ferris
Nicolas Webb
Felicity Waters
Carys Thomas
Nicola Williams
Lucy Patten
Megan Anderson
Mark Briggs
Adam Fletcher
Nigel Rees
Hugh Adams
Ryland Doyle
Jon Oliver
Richard Clarkson
Calum Davies
Corinne Square
Rhian Thomas Turner
EITEM 1 – Croeso a chyflwyniadau
Croesawodd Russell George AS, y Cadeirydd, y rhai a oedd yn bresennol i'r cyfarfod, ynghyd â’r siaradwyr.
Rhoddodd gyflwyniad byr i’r agenda ar gyfer y cyfarfod, a oedd yn canolbwyntio ar ganfyddiadau'r cyhoedd ynghylch ymchwil feddygol yng Nghymru.
EITEM 2 – Cyflwyniad: Adroddiad ar ganlyniadau’r prosiect ‘Discovery Decade’.
Rebecca Hill a Ben Bleasdale o’r Ymgyrch Gwyddoniaeth a Pheirianneg (CaSE).
Gwnaeth y Cadeirydd wahodd Rebecca Hill a Ben Bleasdale o’r Ymgyrch Gwyddoniaeth a Pheirianneg (CaSE) i drafod canlyniadau diweddar y prosiect ‘Discovery Decade’, sef prosiect sy’n cael ei gynnal gan CaSE er mwyn ceisio deall canfyddiadau’r cyhoedd ynghylch ymchwil a datblygu yn y DU.
Dywedodd Ben mai nod y prosiect yw deall sut y gallwn siarad â'r cyhoedd yn gyffredinol ynghylch pam mae ymchwil a datblygu yn flaenoriaeth gymdeithasol a gwleidyddol, a sut y gallwn siarad am fuddsoddi mewn ymchwil a datblygu mewn modd priodol. Mae’r prosiect yn canolbwyntio ar ganfyddiadau’r cyhoedd mewn perthynas ag ymchwil a datblygu, gan ofyn sut y gallwn siarad am y maes hwn yn y gymdeithas mewn ffordd gadarnhaol ac mewn ffordd sy’n gysylltiedig â materion eraill fel yr amgylchedd, yr economi ac addysg. Trafododd Becky y data a gasglwyd fel rhan o’r prosiect. Cynhaliwyd 4 arolwg barn â chynrychiolaeth genedlaethol; ymgysylltwyd â dros 18,000 o bobl yn yr arolwg ynghylch agweddau’r cyhoedd a 14 grŵp ffocws. Dywedodd Becky fod y prosiect wedi ymgysylltu â phobl ar draws ystod eang o feysydd demograffig ac ardaloedd rhanbarthol. Dywedodd Becky fod y prif ganfyddiadau fel a ganlyn: yn gyffredinol, mae’r cyhoedd o’r farn bod ymchwil a datblygu yn bwysig; nid yw’n cael ei ystyried yn fater gwleidyddol, ond nid oedd mwy na hanner y bobl a gafodd eu cyfweld yn gwybod fawr ddim, os unrhyw beth, am ymchwil a datblygu. Yn gyffredinol, un o'r gwersi mwyaf sydd wedi dod i’r amlwg yn sgil y prosiect hyd yn hyn yw pwysigrwydd cyffyrddadwyedd a gwelededd lleol. Mae’n bwysig inni allu dangos bod ymchwil a datblygu yn arf ar gyfer mynd i'r afael â'r materion sy'n ein hwynebu yn y gymdeithas heddiw.
EITEM 3 – Cyflwyniad: Elliot’s Endeavours.
Lucy Pattern, sylfaenydd Elliot's Endeavours.
Gwnaeth John Griffiths AS wahodd Lucy Pattern, sylfaenydd Elliot's Endeavours, i annerch y grŵp. Mae Lucy yn fam i Elliot, sydd â chyflwr prin o'r enw Dystroffi Cyhyrol Duchenne.
Siaradodd Lucy am brofiad personol ei mab o'r cyflwr, gan sôn am sut a pham y gall effeithio ar blant ifanc, yn enwedig bechgyn. Soniodd am y symptomau, gan nodi bod y rhan fwyaf o gleifion, yn gyffredinol, yn colli'r gallu i gerdded wrth gyrraedd y glasoed. Soniodd hefyd am y treialon clinigol sy'n digwydd ar hyn o bryd gyda’r nod o drin a gwella'r cyflwr. Yna, gwnaeth sylwadau am ei phrofiad personol o’r treialon clinigol y mae Elliot yn cymryd rhan ynddynt yn Newcastle ar hyn o bryd.
Siaradodd Lucy am bwysigrwydd codi ymwybyddiaeth ynghylch cyflyrau mor brin, a’r effaith y gall treialon clinigol ei chael ar gleifion a theuluoedd. Dywedodd Lucy fod ymchwil glinigol ym maes Duchenne yn newid ac yn gwella'n barhaus. Mae ymchwil yn cael ei wneud ynghylch mynd i'r afael â’r hyn sydd wrth wraidd Duchenne, therapi genynnau a mynd i'r afael â sgil-effeithiau Duchenne. Mae nifer y treialon clinigol ym maes Duchenne yn cynyddu. Maent yn cael eu cynnal ledled y DU, ond nid oes yr un yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae Lucy yn gobeithio defnyddio’r sgiliau a’r adnoddau sy’n gysylltiedig â threialon sy'n cael eu cynnal yng Nghaerdydd er mwyn sicrhau treialon clinigol ym maes Duchenne yng Nghymru.
EITEM 4 – Sesiwn holi ac ateb a sylwadau i gloi
Diolchodd y Cadeirydd i'r holl siaradwyr a gwahoddodd gwestiynau gan y rhai a oedd yn bresennol.
Gofynnodd un person gwestiwn am y canfyddiadau ynghylch defnyddio data cyhoeddus ar gyfer ymchwil, a chanfod y sgiliau cywir ar gyfer cynnal gwaith ymchwil. Dywedodd Ben o CaSE fod deall data cleifion yn her a’i bod yn hynod bwysig bod pobl yn deall sut mae eu data’n cael eu defnyddio a beth yw manteision defnyddio data o’r fath. Dywedodd hefyd fod llawer o waith i’w wneud o ran codi proffil y gweithlu ym maes ymchwil a datblygu.
Gofynnodd person arall i Lucy beth yr oedd yn dymuno ei weld gan wleidyddion yng Nghymru o ran gwella’r amgylchedd ar gyfer treialon clinigol. Dywedodd Lucy ei bod yn bwysig sicrhau’r gweithlu ymchwil a datblygu yng Nghymru a fyddai’n caniatáu i dreialon o’r fath gael eu cynnal.
Gan nad oedd unrhyw fater arall, diolchodd y Cadeirydd i bawb am fod yn bresennol a daeth â’r cyfarfod i ben.